ENCILION I YSGRIFENWYR YN NHŶ NEWYDD 2010
Mae’r encilion hyn wedi’u cynllunio er mwyn rhoi heddwch a llonyddwch i ysgrifenwyr mewn awyrgylch ysbrydoledig a chefnogol. Mae’n gyfle i fwrw iddi gyda gwaith sydd wedi bod ar y gweill ac i ymlacio cewch gerdded ar hyd y traeth neu hyd lannau’r Ddwyfor neu cewch grwydro’r ardal i Bortmeirion neu i Eryri efallai.
Tŷ Newydd oedd cartref olaf Lloyd George ac o’r gerddi tawel braf ceir golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion. Bydd pawb yn cael ei ystafell ei hun ac mae’r rhan fwyaf ohonynt gyda chyfleusterau en-suite. Mae yma un ystafell sydd wedi’i haddasu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn neu unrhyw un ag anableddau symud. ’Rydym bob amser yn barod i drafod a chynorthwyo gydag unrhyw anghenion mynediad neu anghenion arbennig eraill.
Darperir pob pryd bwyd. Gofynnir i chwi helpu’ch hunain i frecwast a chinio (a ddarperir ar eich cyfer) a gofynnir i chi hefyd helpu i baratoi un pryd nos fel rhan o dîm. Gallwn ddarparu ar gyfer llysieuwyr ynghyd ag unrhyw un sydd ag anghenion deiet arbennig – byddwch cystal â’n hysbysu o’ch anghenion ymlaenllaw os gwelwch yn dda (gweler y ffurflen gofrestru).Mae’r encilion yn agored i bawb, o bob oed a lefel profiad ac ym mha bynnag genre neu iaith y maent yn dewis ysgrifennu ynddo/ynddi.
Dyddiadau’r encilion ar gyfer 2010 fydd:
ENCIL NEWYDD: Llun, 5ed - Gwener 9fed Gorffennaf (4 noson) £300
Llun, Medi 6ed – Gwener, Medi 10fed (4 noson) £300
I gofrestru cysylltwch â ni trwy e-bost – post@tynewydd.org, ar y ffôn neu trwy gwblhau ffurflen gofrestru a’i dychwelyd ynghyd â’ch siec am £100 blaendal neu’r tâl yn llawn at:
Ymddiriedolaeth Talesin Cyf., Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth,
Gwynedd. LL52 0LW
Ffôn 01766 522811 / Ffacs 01766 523095
Dalier sylw fod modd i chwi dalu arlein hefyd (trwy PayPal). Cliciwch yma i ddefnyddio PayPal.
Yn anffodus nid oes unrhyw lefydd bwrsari ar gael ar Encilion Tŷ Newydd